Newyddion

Cynnwys Newyddion


Cyfleusterau Parcio Beiciau Newydd yn Orsaf Rheilffordd Machynlleth - 18/06/2007

I ddathlu Wythnos y Beic, Mehefin y 16 - Mehefin y 24 mae cyfleusterau parcio beiciau newydd wedi eu gosod yng Ngorsaf Rheilffordd Machynlleth.

Yn ddiweddar, mae yna gynnydd cyson wedi bod yn niferoedd y cwsmeriaid a staff sydd am deithio i'r orsaf ar eu beiciau.

Yn cydweithio mae Trennau Arriva Cymru (TAC), Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) a Chyngor Sir Powys (CSP) wedi darparu a gosod y standiau newydd sydd yn medru cadw hyd at 10 beic.

Medd Anthea Jones, Swyddog Datblygu Seiclo CSP a ddarparodd y standiau, "Mae'n wych, tra'n dathlu Wythnos y Beic fod CSP a TAC yn medru gweithio gyda'i gilydd i wella ymhellach ddarpariaeth i seiclwyr yn Machynlleth ac o amgylch y dref. Mae'r standiau newydd yn cefnogi a hyrwyddo prosiectau eraill a welir yn y dref gan gynnwys 'Llwybrau Diogel i'r Ysgol' a hefyd y llwybr aml ddefnydd i seiclwyr a cherddwyr o Fachynlleth i Dderwenlas'.

Ar ran y PRC dywed Gerwyn Jones, a gydlynodd y cynllun, "Gyda phryderon am yr amgylchedd, tagfeydd traffig, problemau parcio a materion yn ymwneud â iechyd yn cynyddu, mae bobl yn chwilio am ffyrdd eraill o deithio yn hytrach nag yn y car - mae prosiectau cymharol bach fel hyn yn medru galluogi a hyrwyddo'r newid yma o deithio mewn car i ddulliau mwy hygyrch a iach."


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni