Newyddion

Cynnwys Newyddion


Ychwanegu at Gasgliad 'Cardiau Cledrau'r Cambrian' - 09/07/2007

A5 sized coastcard showing a painting of a train crossing Barmouth viaductYn dilyn poblogrwydd Cardiau Cledrau'r Cambrian a lansiwyd yn gynharach yn 2007 - mae cerdyn newydd wedi ei gyhoeddi i ychwanegu at y casgliad.

Mae clawr y cardiau newydd yn dangos llun a baentiwyd gan yr artist David Grosvenor o drên yn croesi bont Abermaw a oedd yn wreiddiol yn un o gyfres o bosteri a gynhyrchwyd yn y 1990au i hyrywddo rai o rheilffydd godidog Cymru.

Mae cefn y cardiau yn dangos enwau rhai o brif gyrchfannau poblogaidd yr arfordir y gellir ymweld â hwy ar y trên - a gyda thocynnau crwydro dyddiol o £6 i oedolion (£3 i blant), mae teithio ar y trên yn ffordd grêt o ymweld â hwy. Wedi ei gynnwys ar gefn y cardiau mae manylion cyswllt 'traveline cymru' sydd yn darparu gwybodaeth cludiant cyhoeddus gan gynnwys amserau'r trennau.

Dywed y Cyng. Trevor Roberts, Cadeirydd TAITH - Consortiwm Trafnidiaeth Gogledd Cymru, tra'n lansio'r cardiau - "Mae cledrau Arfordir y Cambrian yn lawer mwy na modd i deithio o A a B - mae'n atyniad twrisiaeth symudol yn ei hun! Rwy'n gobeithio fydd yr ychwanegiad yma i gasgliad cardiau cledrau'r Cambrian yn boblogaidd ac yn codi ymwybyddiaeth o'r lein gyda thwristiaid a bobl lleol ynghyd tra'n cefnogi tyfiant yn niferoedd sy'n teithio arni."

Medd Gerwyn Jones, ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, sy'n cyhoeddi'r cardiau, "Mae'r cardiau gwreiddiol wedi profi i fod yn boblogaidd iawn, nid yn unig I'w defnyddio fel cardiau post ond hefyd fel memorabilia addurniedig lle gellir ei arddangos yn y swyddfa neu yn y cartref."

Bydd y cardiau newydd ar gael mewn Canolfannau Croeso Ymwelwyr, gorsafoedd rheilffordd lle bo staff ag allfannau eraill ar hyd Arfordir y Cambrian. Pe baech yn dymuno cerdyn drwy'r post, yna anfonwch amlen (o leiaf A5 mewn maint) hunan gyfeiriadedig gan gynnwys y stampiau priodol at:

Gerwyn Jones
Swyddog Rheilffordd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trennau Arriva Cymru
Gorsaf Rheilffordd Machynlleth
Heol y Doll
Machynlleth
Powys
SY20 8BL
Atodir: Y garden newydd


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni