
Harriet Earis yn perfformio yng Ngorsaf Rheilffordd Aberystwyth ar ddydd Llun Mehefin 16eg.
Roedd gorsaf Rheilffordd Aberystwyth yn ferw ddydd Llun gyda thonau hyfryd Telyn Celtaidd y perfformwraig lleol, Harriet Earis. Roedd Harriet yn chwarae yn yr orsaf fel rhan o waith estyn-allan Gŵyl Gregynog i ddod â cherddoriaeth at y lluoedd.
Creuwyd cyffro gan berfformiad Harriet ymysg ystod eang o bobl oedd yn yr orsaf, sydd yn ganolbwynt cymdeithasol pwysig i'r dref yn ogystal â gorsaf gweithredol, ynghyd â'r rhai oedd wedi mynychu'n uniongyrchol i'w chlywed hi'n chwarae.
Yn gwmni i Harriet ar y diwrnod oedd ‘grŵp cefnogi' oedd yn cynnwys aelodau trefnu Gŵyl Gregynog, Gerwyn Jones o Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian a chynrychiolwyr o Chandler KBS oedd wrth law i ddarparu gwybodeth am y Ŵyl, y Rheilffordd a'r gwaith adeiladu ar swyddfeydd newydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Aberystwyth.
Medd Dr. Rhian Davies, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gregynog: "Dyma ddigwyddiad cyntaf estyn-allan yr Ŵyl am y flwyddyn yma, ac rydym mor ddiolchgar i Gerddoriaeth Byw Nawr! Cymru, Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian a Chandler KBS am eu cefnogaeth. Fy syniad oedd i greu cyfarfod ddamweiniol rhwng cerddoriaeth a'r rhai sydd yn pasio drwy orsaf Aber, ac mae'r digwyddiad wedi bod yn lwyddiant ysgubol gyda rhythmau Celtaidd bachog Harriet yn atseinio o amgylch cyntedd yr orsaf."

Harriet Earis a Gerwyn Jones yn Marchnad Y Drenewydd ar ddydd Mawrth y 17eg o Fehefin.
Soniodd Gerwyn Jones, ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian, "Rydym yn ymgymeryd â ystod eang o weithgareddau yn ystod y flwyddyn i hyrwyddo'r gwasanaethau trên ac yn wastad yn chwilio am ffyrdd newydd o godi proffeil y rheilffordd – mae bod yn gysylltiedig a rhywbeth fel hyn yn sicr o'n helpu i wireddu hyn yn ogystal â chefnogi Gŵyl Gregynog sydd yn ddigwyddiad diwylliannol lleol pwysig."
Gan ddatblygu ar lwyddiant y digwyddiad yng ngorsaf Rheilffordd Aberystwyth, gwnaeth Harriet berfformio yng Nghanolfan Siopa ‘Bear Lanes' yn Y Drenewydd, ar ddydd Mawrth y 17eg o Fehefin. Eto, ymunodd aelodau trefnu Gŵyl Gregynog a Gerwyn Jones a dosbarthwyd deunydd hyrywddo ar gyfer yr Ŵyl a'r Rheilffyrdd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium