Yn cyd-weithio gydag arbenigwyr TG lleol, Cyberium, mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRyC) wedi ailwampio ac ail-lansio ei gwefan www.leinycambrian.co.uk
Mae www.leinycambrian.co.uk yn darparu gwybodaeth i'r rhai sydd am ddefnyddio leiniau'r Cambrian ar gyfer gwaith a phleser drwy gynnig cyngor ar y tocynnau mwyaf priodol, hyrwyddiadau a syniadau am ddiwrnodau allan ar y trên.
Ar ran PRyC, medd ei Swyddog Datblygu Rheilffyrdd Gerwyn Jones "Er fy mod yn dipyn o 'decnophobe' fy hun rwy'n gwerthfawrogi ein bod yn byw mewn byd sy'n gynyddol â ffocws electroneg a felly rhaid cydnabod bod y wefan yn chwarae rhan allweddol yn ein cynllun marchnata. Rydym yn gobeithio y bydd gwefan sy'n fwy ymarferol a haws i'w tramwyo yn golygu y bydd yn adnodd ddefnyddiol i ddarpar gwsmeriaid yn ogystal â rhai presennol".
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium