O ddydd Llun y 15 o Ragfyr 2008 bydd Trenau Arriva Cymru yn gweithredu trenau uniongyrchol rhwng rhwydwaith rheilffyrdd y Cambrian a maes awyrennau ryngwladol Birmingham.
Fe fydd hyn yn gwneud hi'n haws ac yn fwy deuniadol i drigolion Canolbarth Cymru fedru cychwyn eu teithiau gwyliau neu fusnes ryngwladol o'u gorsaf rheilffordd leol, yn ogystal â gwella hygyrchedd at y Ganolfan Arddangos Genedlaethol (GAG).
Medd Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian "Gyda phrisau tanwydd yn uchel ac unigolion yn gofidio am ei ôl traed carbon mae'r gwasanaethau yma yn darparu ffordd gyfleus o gyrraedd maes awyr blaenllaw a lleoliad digwyddiadau pwysig heb ddefnyddio'r car yn ogystal â lleihau ein eco-euogrwydd".
Bonws ychwanegol i holl deithwyr yn deillio o'r deiagramau trên newydd, neu batrymau gweithredu, bydd yna arhosiad fwy hael ar ddiwedd y daith a fydd yn arwain at welliant mawr ym mherfformiad trenau ar rwydwaith y Cambrian.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium