Newyddion

Cynnwys Newyddion


Swyddog Datblygu Newydd i Rheilffyrdd y Cambrian 08/08/2006

Swyddog Datblygu Rheilffordd, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, Gerwyn JonesMae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn ddiweddar wedi apwyntio Swyddog Datblygu Rheilffordd newydd, Gerwyn Jones, a fu'n flaenorol yn gweithio i TraCC, Consortiwm Trafnidiaeth Canolbarth Cymru a Chyngor Sir Ceredigion yn datblygu a hyrwyddo mentrau trafnidiaeth cynaladwy.

Bydd Gerwyn wedi ei leoli yn orsaf rheilffordd Machynlleth a phrif amcan ei swydd fydd i fod yn rhyngwyneb rhwng y cymunedau a wasanaethir gan Rheilffydd y Cambrian a'r rhai sy'n gyfrifol am fath bethau â darparu'r gwasanaethau trên, cynnal a gwella isadeiledd a darpariaeth gwybodaeth.

Medd Gerwyn "Rwyf yn ymwybodol iawn fod Rheilffyrdd y Cambrian wedi chwarae rhan pwysig iawn yn natblygiad nifer o bentrefi a threfi Canolbarth Cymru a fod y rheilffordd yn parhau i fod yn bwysig iawn yn cysylltu'r ardal â'r byd eangach a thu hwnt i'r Amwythig yn ogystal â cyflogi nifer o fobl yn uniongyrchol ac anuniongyrchol yn y ardal'.

Mae'r daith ar y trên ar hyd Arfordir y Cambrian o Fachynlleth i Bwllheli yn cynnig un o'r teithiau rheilffordd mwyaf trawiadol a phrydferth yn y DU. Mae'r Prif Linell rhwng Aberystwyth a'r Amwythig yn cynnig hygyrchedd at ganolfannau siopa, adnoddau hamdden a meysydd awyr rhyngwladol - be allai fod yn well na dechrau eich gwyliau yn eich gorsaf rheilffordd lleol?

"Gyda phroblemau yn ymwneud â theithio mewn ceir yn cynyddu o hyd, megis problemau parcio a thagfeydd traffig, yn ogystal â phryderon ynghylch yr amgylchedd, mae'r trên yn medru cynnig dewis arall delfrydol" yn ôl Gerwyn.

Dros fisoedd yr haf mae Gerwyn yn gobeithio ymweld â nifer o ddigwyddiadau ar draws yr ardal a wasanaethir gan Rheilffyrdd y Cambrian i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo'r gwasanaethau yn ogystal ag ymgynghori gyda phobl lleol i weld sut gall y rheilffordd bodloni eu anghenion yn well.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni