Newyddion

Cynnwys Newyddion


Gwyliwr Glannau'r Cambrian yn Derbyn Sêl Bendith Gweinidogol 20/11/2008

Gerwyn Jones â Ieuan Wyn Jones yn lawnsio Gwyliwr Glannau'r Cambrian
Gerwyn Jones â Ieuan Wyn Jones yn lawnsio Gwyliwr Glannau'r Cambrian.
Lawnsiwyd cyhoeddiad newydd sy'n disgrifio'r hyn a welir drwy ffenestr y trên ar lein y rheilffordd rhwng Aberystwyth, Machynlleth a Phwllheli yn ystod Cynhadledd Defnyddiolwch Trafnidiaeth Cymru a gynhaliwyd yn Aberystwyth ar ddydd Iau y 20fed o Dachwedd.

Mae Gwyliwr Glannau'r Cambrian sydd yn nodi pethau o ddiddordeb i deithwyr fel y maent yn teithio ar hyd y linell wedi cael ei groesawu'n arw gan Ddirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones AC. Yn siarad yn y cynhadledd medd Mr Jones, "Rwy'n croesawu'n wresog mentrau fel hyn sydd nid yn unig yn hyrwyddo gwasanaethau cludiant cyhoeddus lleol ond hefyd yr atyniad Cymru Wledig ar y cyfan. Mae 'Gwyliwr' newydd lein Arfordir y Cambrian yn cyfrannu at wella dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o olygfeydd arfordirol a mynyddig gwych ein gwlad".

"Mae'r fenter newydd yn esiampl o sut mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn gwireddu prosiectau sydd yn cefnogi'r economi letach mewn ardal ble mae twristiaeth yn ddiwydiant mor bwysig".

Cwmni lleol Timeline ymgymerodd gyda'r gwaith ymchwil a dylunio ac yr arlunydd o Borth, Gabrielle Adamson sydd wedi creu y darluniau hardd. Soniodd Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian (PRC) "Cefais fy'n ngeni a'm magu yn yr ardal a rhinwedd fy swydd bob dydd yw hyrwyddo'r rheilffordd – wedi dweud hyn, mae yna lawer o wybodaeth diddorol wedi ei gynnwys yn y Gwyliwr nad oeddwn i yn hysbys ohono. Dwi'n siwr fydd yna nifer o bobl lleol yn ei fwynhau yn ogystal â ymwelwyr gan ei fod yn cyfrannu at wella mwynhad y daith rheilffordd yma sydd eisioes wedi ei gydnabod fel un or rhai mwyaf golygfaol yn y DU." 

Mae lawnsio cyhoeddiadau megis y Gwyliwr y tu allan i dymor traddodiadol ymwelwyr yn rhan allweddol o strategaeth PRC i hyrwyddo'r gwasanaethau trên a chefnogi busnesau lleol ar hyd y llinellau drwy gydol y flwyddyn.

Bydd Gwyliwr y Glannau ar gael am ddim o orsafoedd rheilffordd lle bo staff, Canolfannau Croeso ac allfannau eraill ar hyd rhwydwaith y Cambrian.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni