
Yn dathlu cyflwyniad gwasanaethau trên uniongyrchol rhwng rhwydwaith y Cambrian â Birmingham International mae (c – dd) Cyng. Goronwy Edwards (Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth), Gerwyn Jones (Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian), Nigel Owen (Prifysgol Aberystwyth), Mick Bates (Aelod Cynulliad dros Drefaldwyn), a Angus Eikhoff (Asiantaeth Defnyddwyr Rheilffordd Yr Amwythig i Aberystwyth).
Mae'n debyg bod pethau'n mynd o nerth i nerth ar Rheilffyrdd y Cambrian. Yn dilyn cyflwyniad diweddar gwasanaethau uniongyrchol rhwng rhwydwaith y Cambrian â Maes Awyr Rhyngwladol Birmingham a'r Ganolfan Gynhadledd Genedlaethol ynghyd a fwy o drennau ar ddydd Sul, mae Trenau Arriva Cymru (TAC) wedi datgelu ei dyhead i redeg gwasanaethau trên uniongyrchol rhwng Aberystwyth a Llundain.
Gwneir cais gan TAC i Network Rail ar gyfer y llwybrau priodol ar gyfer y gwasanaeth arfaethedig rhwng Aberystwyth a Marylebone Llundain gyda dyfarniad y llwybrau yn cael ei benderfynu gan y Swyddfa Rheoli Rheilffyrdd.
Mae'r gwasanaeth yma yn cael ei gynllunio ar y cyd gyda chais gan Ieuan Wyn Jones Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i archwilio opsiynau ar gyfer gwasanaeth bob awr ar Brif Linell y Cambrian.
Byddai'r gwasanaethau arfaethedig i Lundain, a fyddai'n cychwyn gweithredu o fis Rhagfyr 2009, yn cynnwys dau wasanaeth uniongyrchol dyddiol i ag o Aberystwyth ac yn adfer cysylltiad gyda phriffddinas Prydain a ddiddymwyd gan Rheilffyrdd Prydeinig yn 1991. Bydd gwasanaethau uniongyrchol rhwng Llundain a Llinell Arfordir y Cambrian i Bwllheli hefyd yn cael ei darparu ar ddydd Sadyrnau yn ystod yr haf.
Medd Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, "Mae hyn yn ragor o newyddion cyffrous i drigolion ac economi canolbarth Cymru gan fyddai gwasanaeth trên uniongyrchol â Llundain o fudd yn atynnu rhagor o dwristiaid i'r ardal yn ogystal â gwella cysylltiadau'n gyffredinol â'r byd lletach".
Mae'r broses ymgynghori nawr yn cychwyn a fydd yn cynnwys rhandalwyr o fewn y diwydiant rheilffordd ag eraill – fel rhan o hyn dylsai'r rhai sydd am fynegi barn ar gynlluniau TAC, atodir manylion, gysylltu â:
Chris Dellard
Rheolwr Hygyrchedd y Cledrau
Trenau Arriva Cymru
Tŷ'r Santed Fair
47 Ffordd Penarth
Caerdydd
CF10 5DJ
chris.dellard@arrivatw.co.uk
cyn y 23 o Ionawr 2009.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium