
Lluniau o'r digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngorsaf Rheilffordd Y Drenewydd ar ddydd Mawrth y 9fed o Fehefin 2009.
PDF o'r cerdyn post arbennig a argraffwyd mewn niferoedd cyfyngedig i nodi'r achlysur [PDF 300kB]
Bu achos o edrych yn ôl i'r gorffennol AC i'r dyfodol mewn digwyddiad a gynhaliwyd ar ddydd Mawrth y 9fed o Fehefin yng Ngorsaf Rheilffordd y Drenewydd i ddathlu 150 o flynyddoedd o'r rheilffordd yn gwasanaethu'r gymuned leol.
Roedd yna awyrgylch parti gyda cherddoriaeth byw, blas o Gymru mewn ffurf cacennau cri am ddim, cerdyn post arbennig fel cofrodd am ddim a hyd yn oed ymweliad ‘brenhinol' oddi wrth ddynwaredwraig y Frenhines Victoria a rhai o'i staff!
Yn ogytsal Ā theithwyr ar y trenau yn mwynhau'r gweithgareddau roedd y digwyddiad wedi ei gefnogi'n wresog gan nifer o gyrff lleol gan gynnwys Cyngor Tref Y Drenewydd, Cymdeithas Dinesig Y Drenewydd, Cyngor Sir Powys, Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Yr Amwythig i Aberystwyth ynghyd Ā bron i 100 o ddisgyblion a staff Ysgol Gynradd St.
Mary's a Ysgol Dafydd Llwyd.
Roedd y disgyblion wedi creu baneri Cymreig gwych ar gyfer y digwyddiad, fel eu bod yn medru eu chwifio at deithwyr pan roedd y trenau yn cyrraedd a gadael yr orsaf a wnaeth cyfrannu'n fawr iawn at awyrgylch grêt.
Roedd eu presenoldeb a brwdfrydedd am y rheilffordd nid yn unig yn sicrhau bod y digwyddiad yn dathlu'r gorffennol ond hefyd fod yna lawer o obaith i ddyfodol y rheilffordd yn Y Drenewydd gyda mae y nhw fydd teithwyr ac efallai staff y rheilffordd yfory.
Yn dilyn seremoni dadorchuddio phlac o lechen a gynyhyrchwyd yn arbennig ar gyfer yr achlyur dyweddodd Maer Y Drenewydd, Joy Jones, "Mae yna 150 o flynyddoedd o wasanaeth wedi ei ddarparu drwy'r orsaf yma.
Pan rydych yn aros i feddwl am yr holl bobl sydd wedi defnyddio'r orsaf dros y blynyddoedd mae wedi bod yn fudd mawr i'r Drenewydd.
Mae'r orsaf yma wedi gweld llawer o newid o drenau ager i rhai diesel.
Trenau a theithwyr, trenau nwyddau a'r Post yn ogystal wrth gwrs Ā threnau milwyr yn ystod y rhyfel! Gyda'r gwelliannau newydd i'r gwasanaeth trên fe fydd yn parhau i gael ei ddefnyddio am flynyddoedd lawer i ddod."
Roedd y digwyddiad yn cynnwys darpariaeth o ddeunydd hyrwyddo rheilffordd a pherfformiad gan Jamie Smith, un o chwaraewyr acordion ac ysgrifenwyr cerddoriaeth acwstic newydd gorau'r DU, a fu'n diddanu teithwyr ac ymwelwyr eraill o'r Orsaf.
Roedd ymddangosiad Jamie yn un elfen o fenter ‘Gerddoriaeth a'r daith' rhan o Live Music Now! Cymru a rhaglen estyn allan Gŵyl Gregynog.
Medd Rhian Davies, Cyfarwyddwraig Artistig Gŵyl Gregynog, "Mae ein gwaith estyn allan yn holl bwysig i ethos Gŵyl Gregynog.
Mae cerddoriaeth clasurol i bawb ac mae mynd a cherddoriaeth allan ar hyd y lle drwy gefnogaeth hael, Live Music Now! Wales, Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian a Gŵyl y Gwanwyn yn ffordd wych o gyrraedd cynulleidfa ehangach ar draws ein talgylch yng Nghanolbarth Cymru a thu hwnt".
"Roedd y digwyddiad yn esiampl arbennig o weithio fel tîm a beth ellir ei gyflawni pan fo mudiadau ac unigolion o'r gymuned yn gweithio gyda'i gilydd" medd Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian.
Am ragor o wybodaeth ar ŵyl Gregynog ymwelwch â: www.gwylgregynogfestival.org neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau 01743 281281
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium