Newyddion Cynnwys Newyddion


Carnifal Campus Cambria'n cysylltu cymunedau27/07/2009


O Garnifal Cambria a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn y 25ain o Orffennaf 2009 ac Harlech.

O Garnifal Cambria a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn y 25ain o Orffennaf 2009.

O Garnifal Cambria a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn y 25ain o Orffennaf 2009 ac Barmouth.

Lluniau: O Garnifal Cambria a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn y 25ain o Orffennaf 2009.

Roedd yn achos o fywyd yn dynwared celfyddyd ar Arfodir y Cambrian ar ddydd Sadwrn y 25ain o Orffennaf gyda digwyddiad Carnifal Cambria'n cymeryd blaen y llwyfan.

Cafodd y digwyddiad, a drefnwyd gan Theatr Harlech, ei ysbrydoli gan ddarn o farddoniaeth enwog Robert Graves, ‘Welsh Incident', ynglŷn â ‘pob math o bethau rhyfedd' yn dod allan o'r ogofau glan môr ger Criccieth.

Bu nifer fawr o fobl yn gysylltiedig â'r digwyddiad a oedd yn cynnwys cyfres o weithdai lle cynhyrchwyd ystod eclectic o wisgoedd er mwyn bywiogu'r darn barddoniaeth. Ar y dydd Sadwrn cafodd ‘pethau' rhyfedd 2009 ei ryddhau ar drefydd Abermaw, Harlech a Chriccieth fel rhan o dair Orymdaith Grand a oedd yn cynnwys digwyddiadau yng nghestyll Harlech a Chriccieth.

Dywedodd Clare Williams, o Theatr Harlech, am y digwyddiad "Roeddem yn meddwl y byddai darn o farddoniaeth Robert Graves yn cyffroi meddyliau ifanc mewn ffordd creadigol a thrwy defnyddio'r rheilffordd, sydd yn cysylltu'r cymunedau'n gorfforol fel rhan o'r digwyddiad yn fodd o gynnal hen a meithrin chyfeillgarwch a pherthnasau newydd rhwng bobl o bob oedran".

Cafodd y rhai oedd yn cymryd rhan a wedi gwisgo i fyny deithio am ddim rhwng y Gorymdeithiau gyda diolch i Trenau Arriva Cymru a oedd ynghyd â Phartneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian (PRC) ag eraill gan gynnwys Cyngor Gwynedd, cymunedau'n gyntaf a CADW yn cefnogi'r digwyddiad.

Medd Gerwyn Jones ar ran PRC "Mae hwn wedi bod yn ddigwyddiad cymunedol gwych sydd wedi ei fwynhau'n fawr gan bobl lleol a hefyd ymwelwyr. Mae'n rhaid talu teyrnged uchel i waith caled a brwdfrydedd Clare a'I chydweithwyr o Theatr Harlech sydd wedi gwireddu'r prosiect uchelgeisiol hwyliog ac arloesol yma mewn modd sydd wedi atgyfnerthu'r cysylltiad sydd yn bodoli rhwng y cymunedau ar y rhan yma o Rheilffordd Arfordir Y Cambrian."

Am ragor o wybodaeth am Theatr Harlech ymwelwch â: www.theatrharlech.com neu ffoniwch 01766 780 667 281281.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni