
Peter gyda’r wobr y mae’n falch ei arddangos yn ei swyddfa yng Ngorsaf Rheilffordd Y Drenewydd.
Mae gwaith arbennig Peter Compton dros deithwyr yng Nghanolbarth Cymru wedi ei gydnabod gan Gyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaiarn.
Mae Peter sy’n rhedeg ‘Newtown Station Travel’ a leolir yng Ngorsaf Rheilffordd Y Drenewydd wedi ei gyflwyno gyda’r “Wobr Dinasydd Da, i rywun mewn cyflogaeth sydd yn helpu bobl eraill mewn ffurf y tu hwnt i’r hyn y disgwylir iddynt yn ei gwaith” gan Faer Y Drenewydd Joy Jones mewn Gwasanaeth Dinesig a gynhelir yn Eglwys Gobaith y dref yn ddiweddar.
Wrth dderbyn y wobr medd Peter “Roedd yn dipyn o syndod i mi dderbyn y wobr yma, ond dwi’n teimlo’n falch iawn o gael fy newis. Dwi’n gobeithio y byddaf yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth cyffelyb i holl deithwyr rheilffordd Canolbarth Cymru, achos hebddynt hwy ni fyddwn yn y sefyllfa yma. Felly hoffwn ddweud diolch yn fawr i Gyngor y Dref ag i’m holl gwsmeriaid”.
Dywedodd Gerwyn Jones ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian “Mae’n wych fod gwaith caled Peter dros y blynyddoedd wedi ei gydnabod yn y ffordd yma – mae’n hollol haeddiannol o’r wobr ac i’w longyfarch yn galonnog.
Mae rhwydwaith rheilffyrdd y Cambrian yn ffodus iawn i gael ei wasanaethu gan staff sydd mor ddiwyd a dymunol a sy’n ceisio gloywi’r profiad teithio – sydd yn farn a’i ddatgelir, rhennir a werthfawrogir gan deithwyr”.
Am ragor o wybodaeth ar Rheilffyrdd y Cambrian ymwelwch â: www.leinycambrian.co.uk
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium