
O'r chwith I'r dde Bob Jones Cyfarwyddwr CAMRA, Gerwyn Jones Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian a Eirwyn Thomas Cadeirydd Gŵyl Gwrw Llanbedr

Lluniau: O lawnsiad Cwrw Gorau Cledrau'r Cambrian a gynhaliwyd ar ddydd Gwener y 25ain o Fedi 2009 yng ngwesty Ty Mawr fel rhan o Ŵyl Gwrw Llanbedr.
Mae Partneriaeth Rheilffyrd y Cambrian (PRC) wedi cydweithio gyda'r Ymgyrch Dros Gwrw Go Iawn (CAMRA) i lawnsio menter newydd Cwrw Gorau Cledrau'r Cambrian i hyrwyddo teithio ar y trenau i dafarndai a wasaneithir gan rwydwaith y Cambrian.
Lawnsiwyd menter Cwrw Gorau Cledrau'r Cambrian fel rhan o Ŵyl Gwrw Llanbedr a gynhaliwyd yng ngwesty Ty Mawr yn ystod penwythnos olaf mis Medi.
Mae'r daflen yn amlygu 20 o dafarndai sydd yn hawdd ei cyrraedd ar gledrau'r Cambrian sy'n ymddangos yn 'Good Beer Guide' CAMRA a gyhoeddir yn flynyddol.
Hefyd mae'r daflen yn codi ymwybyddiaeth o bethau i'w gwneud sy'n gysylltiedig â'r rheilffyrdd a fyddai o ddiddordeb i bobl lleol ac ymwelwyr yn ogystal wrth gwrs â'r rhai sy'n ymddiddori mewn cwrw go iawn a'r cledrau!
Yn siarad yn y lawnsiad, medd Bob Jones, Cyfarwyddwr CAMRA, "Mae rheilffyrdd y Cambrian yn rhai o'r rhai mwya syfyrdanol yn y byd ond mae ganddynt y fantais dros nifer o reilffyrdd rhyngwladol arbennig eraill drwy fod ganddynt gasgliad helaeth o dafarndai Prydeinig gwych i dorri syched gyferbyn â bron bob gorsaf.
Mae mwynhau'r golygfeydd gwych yn waith sychedig a lle gwell i ddarganfod fwy am ddiwylliant lleol nag yn un o'r tafarndai lleol sy'n cynnig dewis cynyddol o gwrw go iawn o safon.
Yn ogystal â dull diogel o deithio mae'n debyg mae rheilffyrdd y Cambrian yw'r ffordd mwyaf hwylus o deithio i weld un neu ddau o dafarndai.
Mae taflen Cwrw Gorau'r Cambrian yn cynnig dewis o dafarndai lleol sydd wedi ei ardystlio gan aelodau lleol CAMRA".
Medd Gerwyn Jones ar ran PRC "Mae'r dafarn leol yn fan cwrdd cymdeithasol pwysig i'r cymunedau y maent yn ei gwasanaethu.
Rydym yn gobeithio fydd menter Cwrw Gorau Cledrau'r Cambrian yn gymorth i gefnogi rhain yn ogystal ag ysgogi bobl i ddefnyddio'r trenau i'w cyrraedd".
Datblygwyd y fenter yma gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian drwy cyd-weithio gyda'r tafarndai, a gefnogir gan SARPA, Asiantaeth Teithwyr Rheilffordd Yr Amwythig i Aberystwyth a ardystlwyd gan CAMRA - Yr Ymgyrch Am Gwrw Go Iawn.
Am restr cyflawn o'r holl dafarndai a ardystlwyd gan CAMRA, cymerwch gopi o'r 'Good Beer Guide' a gyhoeddir yn flynyddol.
The Cambrian ALEways leaflet PDF [0.5mb]
The Cambrian ALEways map (A3) PDF [1.3mb]
Am ragor o wybodaeth am CAMRA ymwelwch â www.camra.org.uk
Am ragor o wybodaeth am W^yl Gwrw Llanbedr ymwelwch â www.llanbedrbeerfestival.co.uk
Am ragor o wybodaeth am SARPA ymwelwch â sarpa.info
Am ragor o wybodaeth ar Rheilffyrdd y Cambrian ymwelwch â: www.leinycambrian.co.uk
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium