
Yn lawnsio 'Golffio Gwych ar Gledrau'r Cambrian' mae Ben Davies (Trenau Arriva Cymru), Neil Buxton (Asiantaeth Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol), Alun Ffred Jones (Y Gweinidog dros Dreftadaeth), Dee Reynolds (Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru) a Gerwyn Jones (Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian).
Mae menter newydd i ysgogi teithio ar y trenau i 12 o gyrsiau golff a wasaneithir gan Reilffyrdd y Cambrian wedi ei lawnsio.
Fel rhan o'r scm mae rhan fwyaf o'r clybiau golff sy'n cymryd rhan wedi cytuno i gynnig discownt i'r rhai sydd yn teithio iddynt ar y trn.
Tarwyd 'ergyd gyntaf' y fenter fel rhan o ddigwyddiad a hwyluswyd gan Asiantaeth Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol (APRC) yng Nghaerdydd i lawnsio adroddiad ar 'Asesiad Twristiaeth a Thrafnidiaeth Cynaladwy' sydd â'r nod o ddatblygu'r berthynas rhwng trafnidiaeth a thwristiaeth yng Nghymru.
Wrth lawnsio 'Golffio Gwych ar Gledrau'r Cambrian' medd Y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, "Hoffwn gymeradwyo Trenau Arriva Cymru a Phartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian ar y fenter yma a fydd yn golygu bod golffwyr sy'n ymweld â Chanolbarth Cymru yn medru teithio'n hawdd o amgylch y rhanbarth gan adael eu ceir gartref.
Gyda Cymru'n cynnal Cwpan Ryder yn 2010 mae yna fwy o ffocws nag erioed o'r blaen ar Gymru fel lleoliad twristiaeth golff.
Yn ogystal â defnyddio'r trenau i gyrraedd rhai o'm cyrisau golff gorau fe fydd ymwelwyr yn medru gweld mwy o Gymru a chael budd allan o mynediad gostyngedig i rai o atyniadu bendigedig yr ardal.
Golff yng Nghymru yw golff fel y ddylsai fod."
Gan gyfeirio at y scm medd Jim Mcleod, Golffiwr Proffesiynol Clwb Golff Aberystwyth "Mae'n wych ein bod yn medru gweithio fel hyn gyda chlybiau eraill yr ardal a'r rheilffyrdd er mwyn hyrwyddo'r pecyn golff a rheilffordd mewn modd sydd o fudd i ni gyd."
Datblygwyd y prosiect gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn gweithio gyda'r clybiau golff sy'n cymryd rhan a thrwy derbyn cefnogaeth gan Bartneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru.
Dywedodd Ben Davies ar ran Trenau Arriva Cymru "Mae hyn yn esiampl dda arall o fenter rydym wedi ei wireddu drwy Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian i hyrwyddo teithio ar y trn ar rwydwaith y Cambrian.
Yn ogystal â chynyddu niferoedd y teithwyr ar y trenau mae'r fath scmau hefyd yn help i gefnogi busnesau lleol, yn yr achos yma y Clybiau Golff, a hefyd yr economi lleol letach."

Map Golffio Gwych ar Gledrau'r Cambrian PDF [1.4MB]

Golffio Gwych ar Gledrau'r Cambrian PDF [1MB]
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium