
Yn ngorsaf Aberdyfi: Ieuan Wyn Jones AC, Jerry Swift (Pennaeth Cyfrifoldeb Corfforaethol Network Rail), Cyng. Trevor Roberts (Cyngor Gwynedd), Cyng. Dewi Owen (Cynghorydd Gwynedd dros Aberdyfi).

Ieuan Wyn Jones AC a Jerry Swift ar y ramp newydd - mae'r cysgodfan newydd i'w weld yn y cefndir.

Ieuan Wyn Jones AC a Gerwyn Jones (Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian wrth y Posteri Gwybodaeth Teithio newydd).
Mae prosiect newydd i ddarparu crwb yng Ngorsaf Rheilffordd Aberdyfi yn mynd i fod yn hwb mawr i bobl lleol ac ymwelwyr.
Mae'r crwb, neu ramp hygyrchedd haws, a fydd yn lleihau y pellter camu sylweddol rhwng y trenau a'r platfform wedi cael ei lawnsio gan Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.
Wrth siarad yn y lawnsiad medd Mr. Jones, "Mae cytundeb Cymru'n Un yn gwneud ymrwymiad pendant i wella ansawdd gorsafoedd a phlatfformau ar draws Cymru - fel bod y rhwydwaith rheilffyrdd yn hygyrch i'w holl ddinasyddion - gan gynnwys mynediad llawn i gadeiriau olwyn yn ôl addewid a wneir yn ein Scêm Hygyrchedd Hawdd.
Rwy'n hapus iawn y prynhawn yma ein bod yn gallu gweld dros ein hunain ddatrysiad dychmygus cost effeithiol - un fydd mewn amser yn help i filoedd mwy i ddefnyddio'r trên."
Medd Cynghorydd Gwynedd Trevor Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Arfordir Y Cambrian, un sydd wedi ymgyrchu'n weithgar ynghyd â nifer o unigolion a grwpiau eraill ar y mater o'r uchder camu yn Aberdyfi: "Bydd hwn o fudd mawr i ystod eang o deithwyr a photensial deithwyr.
Gan mai hwn yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru mae hyn yn llawer mwy na chodi'r platfform - mae hefyd yn codi proffeil Aberdyfi a'r rheilffordd mewn modd positif yn gyffredinol.
Mae'n bositif iawn hefyd i glywed bod cynlluniau mewn lle i ateb problemau tebyg mewn gorsafoedd eraill ar Linell Arfordir Y Cambrian a mannau eraill yng Nghymru."
Esboniodd Jerry Swift, Pennaeth Cyfrifoldeb Corfforaethol Network Rail, "Ar hyn o bryd mae teithwyr a phlant ifanc a coetshis bach, yr henoed a'r rhai sydd a bagiau trwm yn medru chwilio hi'n anodd i fynd ar ag oddi ar drenau yn Aberdyfi.
Rydym nawr wedi chwilio ymateb cost effeithiol.
Mae platfformau isel yn broblem nodweddiadol gorsafoedd gweldig, fel Aberdyfi.
Mae'r crwb yn gwneud hygyrchedd yn haws a mae hyn felly yn golygu y gall mwy o fobl ddefnyddio'r trenau.
Gall y cynnydd mewn nifer y teithwyr fod yn gatalydd i fuddsoddiad pellach yn y rheilffyrdd lleol, i'w wella hyd yn oed yn fwy fel ymtaeb i'r twf yn ôl angen."
Dywedodd Ian Bullock, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Trenau Arriva Cymru, "Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cefnogi'r scêm yma a fydd yn gwneud Gorsaf Rheilffordd Aberdyfi yn fwy hygyrch ac yn ddibynnol ar gadarnhad o ffynhonellau ariannu, mewn nifer o orsafoedd gweldig eraill ar draws rhwydwaith Trenau Arriva Cymru."
Y fenter yn Abedyfi yw'r diweddaraf mewn rhaglen sy'n mynd yn ei flaen i wella isadeilwedd a gwasanaethau ar rwydwaith y Cambrian sydd yn cael ei wireddu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru, Network Rail a Trenau Arriva Cymru.
Mae gorsaf Aberdyfi yn ddiweddar wedi cael gwarchodfa newydd a phoster teithio lleol sy'n rhoi gwybodaeth am deithiau ymlaen o'r orsaf.
Gorsafoedd eraill ar y Cambrian sydd wedi cael cysgodfannau newydd yw Tywyn a'r Trallwng ac mae eraill wedi eu clustnodi.
Bydd deuddeg arall o orsafoedd yn cael posteri gwybodaeth teithio tebyg mewn menter a wireddwyd gan Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium