
Ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian mae Cyng. Michael Williams yn cyflwyno crysau polo i Dorian Lloyd, Capten Clwb Rygbi Machynlleth. Hefyd yn y llun mae chwaraewyr, hyfforddwyr ac aelodau o bwyllgor y Clwb, Gerwyn Jones (Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian) a David Crunkhorn (Trenau Arriva Cymru).
Fel rhan o'i gwaith yn datblygu cysylltiadau gyda'r gymuned leol mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) wedi cyflwyno set o grysau polo newydd i Glwb Rygbi Machynlleth.
Medd David Crunkhorn, Rheolwr Gorsafoedd Y Cambrian Trenau Arriva Cymru, "Mae Gerwyn o'r PRC a finnau yn rhannu swyddfa ac rydym hefyd ein dau yn gyn chwaraewyr rygbi rheng flaen. Fel cefnogwyr rygbi brŵd mae'n wych fod y rheilffordd yn medru cefnogi tȋm lleol yn y modd yma".
Yn ystod y flwyddyn mae PRC hefyd wedi, neu wedi ymrwymo i, ddarparu cefnogaeth i ystod eang o ddigwyddiadau, clybiau a gweithgareddau lleol gan gynnwys:
Drwy werthi posteri yn cynnwys arlunwaith rheilffyrdd mae'r PRC hefyd wedi gallu codi cannoedd o bunnoedd i achosion da gan gynnwys Ambiwlans Awyr Cymru, Apel Arbed Cloc Machynlleth a'r Groes Goch Brydeinig.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium