Newyddion Cynnwys Newyddion


Arwyddion ar amser23/12/2009


Arwyddion Mynedfa i Linell Arfordir Y Cambrian a Pharc Cenedlaethol Eryri

Yn sefyll ger un o'r arwyddion newydd (o'r chwith i'r dde) mae:  Ben Davies (Trenau Arriva Cymru), Gerwyn Jones (Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian) John Ablitt (Parc Cenedlaethol Eryri) a David Crunkhorn (Trenau Arriva Cymru).

Yn sefyll ger un o'r arwyddion newydd (o'r chwith i'r dde) mae:  Ben Davies (Trenau Arriva Cymru), Gerwyn Jones (Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian) John Ablitt (Parc Cenedlaethol Eryri) a David Crunkhorn (Trenau Arriva Cymru).

Mae arwyddion newydd sy'n datgan Machynlleth fel 'Mynedfa i Linell Arfordir Y Cambrian a Pharc Cenedlaethol Eryri' wedi ei gosod yng ngorsaf rheilffordd y dref.

Dywedodd John Ablitt, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Parc Cenedlaethol Eryri "Mae gweithio gyda'r rheilffordd yn bwysig i ddatblygu a chefnogi delwedd y Parc fel ardal dwristiaeth ‘gwyrdd' a chynaladwy sy'n bwysig ar amser pan fod yna bryder a ymwybyddiaeth gynyddol ynglŷn â newid hinsawdd.

"Drwy hyrwyddo'r defnydd o gludiant cyhoeddus rydym yn medru dangos i bobl fod yna gyfleon da i gyrraedd y Parc a theithio tu fewn iddo mewn dulliau yn hytrach na'r car."

Ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian soniodd Gerwyn Jones "Rydym yn ymwybodol fod Arfordir Y Cambrian a Pharc Cenedlaethol Eryri yn frandiau cydnabyddus a phositif sy'n golygu rhywbeth i a chyseinio gyda bobl.

"Mae datblygu mentrau fel hyn yn gallu bod yn yn fuddiol i'r naill a'r llall drwy gysylltu'r rheilffordd gyda'r ardal – pwy ffordd well i fwynhau golygfeydd godidog y Parc na drwy ffenest y trên".




Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni