
Gyda'r myfyrwyr a staff o Goleg Ceredigion yng Ngorsaf Rheilffordd Machynlleth mae Chris Wilson (TraCC), David Crunkhorn (TAC) a Gerwyn Jones (PRC).
Mae arwyddion newydd sy'n datgan Machynlleth fel 'Mynedfa i Linell Arfordir Y Cambrian a Pharc Cenedlaethol Eryri' wedi ei gosod yng ngorsaf rheilffordd y dref.
Bu 10 o fyfyrwyr yn bresennol yn y digwyddiad a gymerodd le ar y 1af o Chwefror 2010 a fu'n cynnwys golwg o amgylch Gorsaf Rheilffordd Aberystwyth a sut i brynu tocynnau a chael gwell dealltwriaeth o amserlenni.
Yn ogystal cafodd y myfyrwyr gyflwyniad i fuddion teithio ar gludiant cyhoeddus a mentrau sydd wedi ei datblygu i wneud y profiad o deithio ar y trenau yn fwy pleserus.
Er hyn uchafbwynt y diwrnod, ym marn y myfyrwyr, oedd taith dwy ffordd ar y trên rhwng Aberystwyth a Machynlleth a oedd yn cynnwys cinio yng Ngorsaf Rheilffordd Machynlleth.
Medd Jonathan Daniel, myfyriwr ail flwyddyn yn astudio cwrs mynediad i addysg yng Ngholeg Ceredigion, "Dwi wedi wir mwynhau'r digwyddiad ac mae wedi rhoi'r hyder i mi feddwl am deithio ar y trên ar ben fy hun".
Cymerodd y digwyddiad le fel rhan o brosiect Partneriaid Mewn Gwleidyddiaeth (PMG) Mencap Cymru sydd â'r nôd o roi grym i bobl ifanc ag anhawsterau dysgu ychwanegol i newid pethau yn eu bywydau.
Mae'r tîm PMG yn ymweld â ysgolion a cholegau i gefnogi pobl ifanc er mwyn iddynt gael gwrandawiad a chael eu gofidiau ar yr agenda wleidyddol..
Un o brif ofidiau pobl ifanc gydag anhawsterau dysgu ychwanegol yw ei gallu i ddefnyddio cludiant cyhoeddus yng Nghymru.
Penderfynodd y myfyrwyr o Goleg Ceredigion i gyflwyno deiseb i Gynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn amlygu'r angen am gynnydd yn y gwasanaethau trên i Aberystwyth ond hefyd i esbonio'r anhawsterau unigryw maent yn eu gwynebu yn defnyddio cludiant cyhoeddus.
Gwnaeth y myfyrwyr gynhyrchu DVD i Aelodau'r Cynulliad a oedd yn esbonio eu dyhead i ddefnyddio cludiant cyhoeddus a hefyd y problemau y gwynebant gydag amserlenni a gwybod pryd a lle i fynd oddi ar fws neu drên.
Dywedodd Sian Davies, Rheolwr PMG Mencap Cymru, "Mae nifer o bobl ag anghengion dysgu ychwanegol yn teimlo'n bryderus am ddefnyddio cludiant cyhoeddus ar ben ei hunain, ond mae myfyrwyr Coleg Ceredigion wedi bod yn rhagweithiol i oroesi rhai o'r pryderon sydd ganddynt.
"Mae'r ddesieb a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud hi'n bosibl i'r myfyrwyr ddysgu mwy am y system drafnidiaeth yng Ngheredigion ag i weithio mewn partneriaeth â chyfundrefnau trafnidiaeth allweddol".
Gwnaeth Cadeirydd Pwyllgor Deisebau y Cynulliad Cenedlaethol gysylltu â Thrafnidiaeth Canolbarth Cymru (TraCC), Consortiwm Trafnidaeth Rhanbarthol Cymru o awdurdodau lleol. Gwnaeth swyddogion gwrdd â myfyrwyr ac edrych ar ffyrdd o ysgogi defnydd cludiant cyhoeddus ymysg y myfyrwyr.
Medd Chris Wilson, Cydlynydd TraCC: "Yn gweithio ar y cyd â Phartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, roeddem yn teimlo y byddai digwyddiad cyfarwyddo yn help i godi hyder ymysg y myfyrwyr i ddefnyddio'r trenau." Mae nifer o bartneriaid wedi gweithio ar y cyd i drefnu'r digwyddiad gan gynnwys Coleg Ceredigion, Mencap Cymru, TraCC, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) a Trenau Arriva Cymru (TAC).
Ar ran PRC dywedodd Gerwyn Jones, "Rydym wedi bod yn gysylltiedig â nifer o ddigwyddiadau cyfarwyddo tebyg yn ddiweddar gan gynnwys rhai gyda gweithredwyr yn y diwydiant twristiaeth, newyddiadurwyr a gwleidyddion lleol yn ogystal â nawr myfyrwyr o Goleg Ceredigion.
Rydym yn teimlo bod y digwyddiadau yn rhai defnyddiol iawn yn enwedig i gysylltu grwpiau gwahanol o fewn y gymuned leol i wella ein dealltwriaeth o'i anghenion a chodi ymwybyddiaeth o beth sydd gan y rwydwaith rheilffordd leol i gynnig iddynt."
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium