Newyddion

Cynnwys Newyddion


Ar gyfer arolwg dichonoldeb pellter camu ar y platfform yng ngorsaf rheilffordd Aberdyfi - 30/10/2006

Mae Tîm Rheilffyrdd Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn gweithio gyda Network Rail i baratoi cynnig am arian o gronfa 'Mynediad i Bawb' oddi wrth yr Adran Drafnidiaeth (AD) ar gyfer arolwg dichonoldeb pellter camu ar y platfform yng ngorsaf rheilffordd Aberdyfi.

Medd Gerwyn Jones, Swyddog Datblygu'r Rheilffordd ar Leiniau'r Cambrian: 'I helpu greu cefnogaeth ar gyfer y cynnig yma mae'r LlCC yn awyddus iawn i glywed barn unigolion yn ogystal â rhai sy'n cynrychioli grwpiau anabledd / mynediad gan ei bod yn teimlo y byddai'r AD yn croesawu rhain a fyddai yn sgil hynny yn gymorth iddynt yn y broses barnu cynigion'.

Aeth Gerwyn yn ei flaen, "Mae'r pellter rhwng byrddio a disgyn oddi ar drenau yn Aberdyfi wedi achosi pryder ers amser hir ac sydd yn parhau i effeithio y rhai hynny sydd ag anhawsterau symudol yn enwedig i ddefnyddio'r orsaf a'r trenau. Fe fyddai unrhyw gynllun i wella'r sefyllfa yma yn cael ei groesawu'n wresog."

Pe baech am gymeryd rhan yn y broses, yna, blaenyrrwch eich cynrychiolaeth at Olwen Minney o Uned Rhelffyrdd LlCC at y cyfeiriad isod erbyn Tachwedd 17eg 2006:

Olwen Minney
Uned Rheilffyrdd Llywodraeth Cynulliad Cymru
Adran 5 Rheilffyrdd a Ffyrdd Newydd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
e-bost: Olwen.Minney@wales.gsi.gov.uk


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni