Newyddion

Cynnwys Newyddion


Lansiad Taflen Teithio Llŷn - 23/03/2007

Bydd taflen teithio rhad ac am ddim newydd ar gyfer ardal Pen Llŷn yn cael ei lansio ar Ebrill y 1 af 2007. Mae "Taflen Teithio Llŷn' yn cynnwys amserlenni bysiau a threnau sydd yn hawdd i'w deall yn ogystal â gwybodaeth am dacsis, cludiant cymunedol, cerdded a seiclo ym Mhen Llŷn.

Bydd y daflen yn ddefnyddiol i dwristiaid a phobl lleol drwy godi ymwybyddiaeth o'r cyfleon sydd ar gael i deithio heb ddefnyddio'r car ym Mhen Llŷn.

Medd Gerwyn Jones, ar ran Partneraieth Rheilffyrdd y Cambrian a gydgysylltodd y prosiect, "Rydym yn aml yn troi'n ddi-feddwl at y car er mwyn teithio i'r gwaith, taro i'r siop, siwrneiau hamdden a chymdeithasol - anaml yr ydym yn ystyried y cyfleon i deithio mewn dulliau sy'n aml yn rhatach, iachach, yn well i'r amgylchedd a sydd hefyd yn lleihau tagfeydd traffig a phroblemau parcio. Ystyrir y bydd 'Taflen Teithio Llŷn' yn help i'r rhai sydd am ddefnyddio llai o'u ceir i wneud hynny drwy gynyddu y defnydd o ddulliau fwy cynaliadwy o deithio."

Dywed Bleddyn Jones, Swyddog Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn, "Mae'r Daflen Deithio hon i'w chroesawu oherwydd ei bod yn cynnig gwybodaeth lawn am ddulliau cynaliadwy o deithio yn ardal Llŷn. Drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a dulliau di-lygredd o deithio bydd yr amgylchedd lleol a byd eang yn elwa ac mae buddion eraill hefyd megis cael peidio gyrru car, osgoi costau parcio a chyfle i ymlacio a mwynhau golygfeydd gwych yr ardal."

I gadw gyda ethos cynaliadwy y daflen, bydd Gerwyn ar ei feic yn dosbarthu copïau o " Daflen Teithio Llŷn' i amryw o allfeydd yn ardal Pen Llŷn gan gynnwys siopau lleol, Swyddfeydd Post a thafarndai yn ogystal â Chanolfannau Croeso Ymwelwyr yn ystod mis Ebrill - mynnwch eich copi nawr!

Mae'r daflen wedi bod yn ffodus o dderbyn cymorth ariannol oddi wrth Cronfa Ddatblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Pwllheli a Phartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. Yn y lle cyntaf, mae nawdd wedi cael ei sicrhau i gyhoeddi dau rifyn o'r daflen y flwyddyn am dair mlynedd.

Dywed Andrew Davies, Aelod Cynulliad, Y Gweinidog dros Fenter, Arloesi a Rhwydweithiau, "Rwy'n llongyfarch Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrain ar ei gwaith yn dyfeisio'r daflen yma ar gyfer cludiant cyhoeddus o amgylch Ben Llŷn. Fe fydd y cyhoeddiad newydd yma yn help i bobl lleol a thwristiaid benderfynu ar dulliau gwahanol o deithio na'r car ac yn ei galluogi i fwynhau y golygfeydd gwych ar Ben Llŷn tra'n hefyd helpu ymladd newid yn yr hinsawdd ."

Nodyn

Partneriaeth Rheilffyrdd Cambrian

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn bartneriaeth o'r partneriaid cyllido dilynol:

  • Trenau Arriva Cymru
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Cyngor Sir Powys
  • Cyngor Swydd Amwythig
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Cyngor Bwrdeisdref Amwythig ac Atcham

Mae'r partneriaid hyn yn cydweithio i ddynodi a gwireddu gwelliannau i wasanaethau a seilwaith ar Rheilffyrdd y Cambrian a chynnal gwaith marchnata er mwyn datblygu marchnadoedd cwsmeriaid presennol a darpar gwsmeriaid.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni