Newyddion

Cynnwys Newyddion


Lansio 'Cardiau Cledrau'r Cambrian' - 16/04/2007

Cardiau Cledrau'r CambrianYn ddiweddar, lansiwyd 'Cardiau Cledrau'r Cambrian' gan Bartneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian. Mae'r cardiau post yma maint A5 yn cynnwys tri dyluniad a welwyd ar bosteri rheilffordd o'r gorffennol er mwyn hybu pobl i ymweld â chyrchfannau Arfordir y Cambrian ar y tr ê n.

I gychwyn, bydd dwy garden yn cael ei cynhyrchu a fydd yn dangos delweddau o Aberystwyth, Abermaw, Harlech a Chriccieth ar y clawr. Bydd rhain yn cael eu dosbarthu, am ddim, drwy amrywiaeth o allfannau gan gynnwys Canolfannau Croeso Ymwelwyr, Gorsafoedd Rheilffordd, atyniadau twristiaeth a darparwyr llety ar Gledrau'r Cambrian. Drwy gydweithio gyda'r Amgueddfa yn Aberystwyth, bydd y cardiau ar gael yno hefyd.

Ar gefn 'Cardiau Cledrau'r Cambrian' ceir gwybodaeth cysylltu ar gyfer Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol, yn ogystal â chyfeiriadau gwefannau Trenau Arriva Cymru a Phartneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian.

Bydd posteri o ddyluniadau tebyg yn cael eu ail-gynhyrchu a'u arddangos yn gorsafoedd rheilffyrdd ar draws rhwydwaith y Cambrian.

Bwriedir y bydd ' Cardiau Cledrau'r Cambrian' a'r posteri, fel yn wreiddiol, yn hyrwyddo teithio i fewn i'r ardal ar y tr ê n, yn ogystal â hybu thrigolion lleol a thwristiaid, tra yn yr ardal, i ddefnyddio'r trenau i ymweld â rhai o'r cyrchfannau arbennig ac atyniadau ar hyd yr Arfordir sydd ar gael. Yn wir, ystyrir y siwrne ar gledrau Arfordir y Cambrian i fod yn un o'r rhai mwyaf hardd a chyferbyniol ag unrhyw le yn y DU sydd yn atyniad sylweddol yn ei hun!

Lansiwyd 'Cardiau Cledrau'r Cambrian' yn swyddogol gan y Cyng. Trevor Roberts, Cadeirydd Cynhadledd Cyswllt Rheilffordd Arfordir y Cambrian mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Y Ganolfan, Porthmadog ar ddydd Gwener, Ebrill y 13 eg 2007. Medd Cyng. Roberts, "Mae'r cardiau yma yn dangos rhinweddau amser a fu sydd wedi argymell bobl i deithio i'r ardal ers yr 20 ed ganrif cynnar. Mae'r delweddau positif yma megis glannau môr gl ân a chroeso cynnes cyfeillgar, diogel yn dal i fod yn amlwg yng nghyrchfannau'r ardal hyd heddiw. Gobeithio y bydd 'Cardiau Cledrau'r Cambrian' yn atgoffa bobl nad oes rhaid iddynt deithio yn eu car er mwyn ymweld â'r ardal a fod yna gyfleodd da i deithio yma ar y trên."


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni