Newyddion

Cynnwys Newyddion


Byrddau Arddangos Newydd i Orsafoedd Rheilffyrdd - 25/05/2007

Tony Donovan, Rheolwr Gorsafoedd - Cledrau'r Cambrian, Trenau Arriva Cymru, Norah Cross aelod o Mabwysiadwyr yr Orsaf 'Criccieth in Bloom' a Gerwyn Jones, Swyddog Datblygu'r Rheilffordd, Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian. Bwrdd Arddangos newydd yng ngorsaf rheilffordd Criccieth sy'n dangos posteri diweddar a ail gynhyrchwyd gan Bartneriaeth Rheilfyrdd y Cambrian ' Barmouth - for Mountain, Sand and Sea'. Chwith i'r dde: Tony Donovan, Rheolwr Gorsafoedd - Cledrau'r Cambrian, Trenau Arriva Cymru, Norah Cross aelod o Mabwysiadwyr yr Orsaf 'Criccieth in Bloom' a Gerwyn Jones, Swyddog Datblygu'r Rheilffordd, Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian.Yn dilyn cais llwyddiannus i APRC, Asiantaeth Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol, mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian mewn cydweithrediad â Threnau Arriva Cymru wedi sicrhau cyllid i ddarparu byrddau arddangos newydd yn chwe gorsaf ar hyd cledrau'r Cambrian.

Bydd y byrddau arddangos newydd yn cael eu lleoli yng ngorsafoedd Borth, Llandanwg, Morfa Mawddach, Criccieth, Penychain a Thywyn a byddant ar gael at ddefnydd y Mabwysiadwyr y Gorsafoedd hynny i godi ymwybyddiaeth o'u gweithgareddau ag i hyrwyddo'r rheilffordd yn lleol.

Medd Tony Donovan ar ran Trenau Arriva Cymru, "Mae prosiectau o'r fath yn rhoi cyfle i Fabwysiadwyr y Gorsafoedd lleol i hysbysebu y gwaith gwych y maent yn eu gwneud ac sydd hefyd yn dangos fod y rheilffordd yn parhau i chwarae rhan blaenllaw iawn ym mywyd bob dydd y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu."

Dywed Gerwyn Jones, ar ran Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, "Mae gwaith Mabwysiadwyr y Gorsafoedd yn enyn teimlad o falchder ag o berchnogaeth yn y gorsafoedd hynny yn y gymdeithas leol sy'n lleihau'r achosion o ddrwg weithredu, graffiti, ysbwriel ac ymddygiad wrth-gymdeithasol."

Nodiadau


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni