Newyddion

Cynnwys Newyddion


Crwydrau'r Cambrian Yn Cyrraedd Y Copa! - 10/05/2008

Cyflwynwyd Gwobr y Ddraig mewn seremoni mawreddog a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru ar nos Fercher y 6 ed o Fai. Yn y llun gweler y Cyng. Trevor Roberts (chwith) a Gerwyn Jones (3 ydd chwith) yn derbyn y tlws ar ran y PRC oddi wrth y Dirprwy Prif Weinidog Ieuan Wyn Jones (2 ail o'r chwith) a cynrychiolydd o SWWITCH, Consortiwm Trafnidiaeth De Orllewin Cymru, a oedd yn cefnogi'r categori Cerdded a Seiclo.
Cyflwynwyd Gwobr y Ddraig mewn seremoni mawreddog a gynhaliwyd yn Amgueddfa Cenedlaethol Cymru ar nos Fercher y 6 ed o Fai. Yn y llun gweler y Cyng. Trevor Roberts (chwith) a Gerwyn Jones (3 ydd chwith) yn derbyn y tlws ar ran y PRC oddi wrth y Dirprwy Prif Weinidog Ieuan Wyn Jones (2 ail o'r chwith) a cynrychiolydd o SWWITCH, Consortiwm Trafnidiaeth De Orllewin Cymru, a oedd yn cefnogi'r categori Cerdded a Seiclo.
Mae Crwydrau'r Cambrian a lansiwyd yn ddiweddar wedi ennill categori Cerddedd a Seiclo yng Ngwobrau Trafnidiaeth Cymru 2008. Mae Gwobrau y Sefydliad Siartiedig Trafnidiaeth a Logisteg yn achlysur blynyddol sydd yn cydnabod a dathlu esiamplau o ymarfer da yn nhrafnidiaeth Cymru.

Cyfres o daflenni wedi ei brandio a ddatblygwyd gan Bartneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian (PRC) yw'r Crwydrau sy'n hyrwyddo llwybrau hunan dywysiedig rhwng gorsafoedd rheilffordd ar rhwydwaith y Cambrian.

Y pedwar Crwydr cyntaf yw:

    Walkers on the Aberdyfi-Barmouth Cambrian trailway
  1. Borth-Aberystwyth [768kB]
  2. Llwyngwwril-Barmouth [736kB]
  3. Caersws-Newtown [1.5MB]
  4. Criccieth-Porthmadog [1.6MB]

Darperir ystod eang o wybodaeth defnyddiol am y llwybrau yn y taflenni gan gynnwys map trwyadl ac effeithiol. Datblygir prosiect Crwydrau'r Cambrian er mwyn optimeiddio'r diddordeb cynyddol yng ngweithgareddau awyr agored, megis cerdded, a hygyrchedd i rhain drwy ddulliau yn hytrach na'r car mewn ardal sy'n enwog am ei thirwedd arfodirol, cefn gwlad a mynyddoedd hardd.

Gobeithir y bydd y Crwydrau o ddiddordeb i bedwar prif grŵp sef:

  • Pobl lleol i fynd allan a mwynhau gweithgareddau iachus mewn ffyrdd sy'n amgylcheddol gynaladwy.
  • Pobl sydd ar wyliau yn yr ardal ac yn chwilio am weithgareddau i ymgymeryd â hwy.
  • Pobl sydd am ddod am ddiwrnod allan o ardal Sir Amwythig, Birmingham a Chanolbarth Lloegr.
  • Pobl sydd am ddod yn unswydd i aros yn yr ardal a gwneud y gyfres o grwydrau dros sawl diwrnod.

Medd Gerwyn Jones, Swyddog Datblygu Rheilffyrdd y Cambrian ar gydnabyddiaeth y Crwydrau, "Mae ennill gwobr cenedlaethol fel hyn yn help i godi proffeil y Crwydrau sy'n hanfodol er mwyn gwneud prosiectau o'r fath yn llwyddiant drwy ysgogi bobl i fynd allan a mwynhau'r llwybrau yn ogystal wrth gwrs a defnyddio'r trenau i wneud hynny!"

Cefnogwyd prosiect y Crwydrau gan Asiantaeth Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol (APRC) a Llywodraeth Cynullaid Cymru drwy ffynhonnell ariannu a weinyddir gan APRC.

Nodyn

Am ragor o wybodaeth ar Crwydrau'r Cambrian, cysylltwch â Gerwyn Jones ar 07920 592 363 neu drwy e-bostio gerwyn.jones@arrivatw.co.uk


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.



Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni