Fel rhan o Wythnos Twristiaeth Cymru, 10-14 o Fawrth, trefnodd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian (PRC) ddigwyddiad cyfarwyddo ar rwydwaith rheilffyrdd y Cambrian.
Nod y diwrnod oedd i godi proffeil Rheilffyrdd y Cambrian fel atyniad twristiaeth yn ei hunan yn ogystal â gwasanaethau ager 'Y Cambrian' ac atyniad twristiaid cysylltiedig agos arall sef Rheilffordd Ffestiniog - un o Drenau Bach Arbennig Cymru.
Dechreuodd y diwrnod yn ystafell gynadledda Twristiaeth Canolbarth Cymru sydd wedi ei leoli'n gyfleus iawn yng ngorsaf rheilffordd atyniadol Machynlleth. Yn gyntaf, cafwyd gyflwyniad gan Gerwyn Jones sef Swyddog Datblygu Rheilffyrdd PRC yn sôn am y gwasanethau arferol sy'n gweithredu ar rwydwaith y Cambrian gan gynnwys rhai ymgyrchau twristiaeth y mae PRC yn gysylltiedig a'u trefnu.
Dilynwyd hyn gyda chyflwyniad gan Neil MacLeod, Rheolwr Marchnata West Coast Railways, gyda manylion ar wasanaethau trên ager 'Y Cambrian' sy'n ennyn poblogrwydd yn flynyddol a fydd yn gweithredu eleni eto ym mis Awst ar Lein Arfordir y Cambrian.
Tywyswyd y rhai wnaeth fynychu'r digwyddiad ar wasanaeth trên Arriva Cymru 11:00 o Fachynlleth hyd at Borthmadog ar Lein y Cambrian. Yn ystod y siwrne, cafwyd cyfle i ofyn cwestiynau am wasanaethau'r gwahanol drenau yn ogystal â mwynhau golygfeydd godidog y siwrne rheilffordd syfyrdanol yma wrth gwrs!
Ym Mhorthmadog, ymwelwyd â Rheilffordd Ffestiniog, un o'r atyniad au sydd yn cyfranogi hyrwyddiad PRC, 'Daliwch y TRENAU MAWR i gwrdd a Threnau Bach Arbennig Cymru'. Cafwyd cinio bwffė dymunol iawn yng Nghaffi a Bar Spooners; gyda chyflwyniad am Rheilffordd y Ffestiniog i ddilyn a siwrne byr ar y rheilffordd byd enwog i Finffordd ag oddi yno dychwelwyd i Fachynlleth ar wasanaeth Lein Arfordir y Cambrian.
Mynychwyd y digwyddiad gan gynrychiolwyr o sefydliadau sy'n gweithio o fewn y diwydiant twristiaeth, gan gynnwys:
Medd Gerwyn Jones ar ran PRC, "Rydym yn gweld digwyddiadau fel hyn a gweithio'n agosach yn gyffredinol gyda'r sector twristiaeth yn fuddiol iawn er mwyn codi proffeil yr rheilffyrdd. Mae'r staff sydd yn gweithio mewn Canolfannau Croeso Twristiaid yn rhyngwyneb pwysig, os nad yr un mwyaf pwysig, o ran ymwelwyr unwaith maent yn y ardal, felly rydym yn gobeithio drwy drefnu dyddiau fel hyn byddwn yn codi proffeil y trenau fel atyniadau twristiaid yn ei hunain ac nid yn unig fel modd o deithio rhwng A a B - sydd yn un o brif amcanion strategol PRC".
Mae hyrwyddiad 'Daliwch y TRENAU MAWR i gwrdd a Threnau Bach Arbennig Cymru' yn un ble mae teithwyr ar y 'Trenau Mawr' yn cael cynnig gostyngiad o 20% ar bris teithio ar y 'Trenau Bach Arbennig Cymru'.
Am ragor o wybodaeth ar:
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium