Yn dilyn poblogrwydd Cardiau Cledrau'r Cambrian a lansiwyd llynedd mae Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian wedi ymestyn y casgliad i gynnwys ddau newydd.
Cafodd y cyntaf o'r ddau cerdyn newydd, 'Arfordir Y Cambrian - Milltiroedd o Draethau Godidiog' ei lawnsio gan y Cyng. Trevor Roberts, Cadeirydd Cynhadledd Cyswllt Rheilffordd Arfordir y Cambrian, mewn cyfarfod diweddar a gynhaliwyd ym Mhorthmadog. Medd Cyng. Roberts "Mae'r dyluniad newydd yma dwi'n siwr yn mynd i brofi i fod mor, os nad yn fwy, poblogaidd na'r rhai a gyhoeddwyd llynedd a maent yn ffordd gwych o hyrwyddo llinell Rheilffordd Arfordir y Cambrain yn ogystal â'r ardal yn gyffredinol. I nifer o fobl o Sir yr Amwythig a Chanolbarth Orllewin Lloegr, Arfordir Y Cambrian sydd wedi bod ers cenedlaethau yn gyrchfan gwyliau hâf traddodiadol iddynt. Mae Cardiau Cledrau'r Cambrian yn eu hatgoffa fod Arfordir Y Cambrain yn dal i fod yn hawdd iawn i'w cyrraedd ar y trên a bod y siwrnau ar Gledrau Arfordir Y Cambrian yn atyniad twristiaeth pwysig yn ei hunan."
Mae'r ail garden yn hyrwyddo teithio o rwydwaith y Cambrian i'r Amwythig ar y trên. Mae'n anodd gweld y cysylltiad rhwng yr Amwythig a'r cyrchfannau glan môr sydd hyd yn hyn wedi ymddangos ar y cardiau yma a bod yr Amwythig rhyw 70 milltir o arfordir y Cambrian! Beth bynnag am hyn, yn lawnsio'r garden dyma Cyng. Mansel Williams, Cadeirydd Cynhadledd Cyswllt Llinell Aberystwyth i'r Amwythig, yn ei cyfarfod diweddar yn y Trallwng yn cynnig "Tra fod yr Amwythig yn bell o lan y môr y mae Afon Hafren yn cylchu llawer o'r dref ac yn cyfleu'r teimlad fod y dref ar ynys a falle dyma pam y cynhwyswyd hon yn y casgliad. Ta waith am y cysylltiad tenau gyda'r arfodir, dwi'n siwr bod deunydd marchnata deuniadol fel hyn sy'n hyrwyddo teithio i'r Amwythig, sy'n ganolfan bwysig o ran siopa, hamdden a thwristiaeth ar y trên yn hytrach nag yn y car yn mynd i helpu lleihau'r problemau parcio a thagfeydd traffig yr ydym yn ei gweld yng nghanol y dref yn ogystal ag ysgogi bobl i deithio mewn dull sy'n amgylcheddol fwy gynaladwy."
Casgliad o bump cerdyn post maint A5 sy'n cynnwys dyluniadau o bosteri'n gysylltiedig â'r rheilffyrdd yw Cardiau Cledrau'r Cambrian a gyhoeddwyd i hyrwyddo teithio i'r trefi ar rwydwaith Y Cambrian ar y trên. Mae'r cardiau wedi profi i fod yn boblogaidd iawn fel eitemau i'w casglu yn eu hunain yn ogystal i'w defnyddio fel cardiau post deuniadol. Mae'r cardiau newydd yn cynnig manylion cyswllt darparwyr gwybodaeth ar gludaint cyhoeddus a thwristiaeth a fydd yn ddefnyddiol i unrhyw un sydd am ymweld ag Arfordir y Cambrian neu'r Amwythig ar y trên.
Bydd y cardiau newydd ar gael am ddim o Ganolfannau Croeso Ymwelwyr, gorsafoedd rheilffordd lle bo staff ac allfannau eraill ar hyd Arfordir y Cambrian. Pe baech yn dymuno cerdyn drwy'r post, yna anfonwch amlen (o leiaf A5 mewn maint) hunan gyfeiriadedig gan gynnwys y stampiau priodol at:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch a ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Adborth neu drwy'r manylion cyswllt ar y chwit.
Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium