Rydych yma : Hafan > Newyddion > Gwau, gwau, a gwau yn Llwyngwril!

Gwau, gwau, a gwau yn Llwyngwril!

7 Medi 2015 | Categori: Newyddion

Os ydych chi wedi galw heibio Llwyngwril yn ddiweddar, rhwng Tywyn a Bermo ar Lein Arfordir y Cambrian, mae'n ddigon posib y buasech chi wedi gweld ambell ddarn gwau tua'r lle!

Bellach, debyg iawn fod y gwewyr wedi bod tua'r orsaf rheilffordd yna hefyd!

Ond, peidied a phoeni - nid gwaith protest gan Bansky yw hyn, ond rhan o ymgyrch lleol gan bobl y pentre i godi ymwybyddiaeth i ymgyrch codi arian ar gyfer 'Y Ganolfan' - eu canolfan gymunedol .

Mae'r gwaith gweu wedi ei roi mewn ardaloedd bach dros y pentre i gyd, ac maent yn rhan o lwybr gwau o gwmpas.

Felly, os ydych yn mynd am daith lan yr arfordir, stopiwch am baned yn Llwyngwril i weld os allwch chi ddod o hyd i bob un o'r darnau, a cynnig ceiniog neu ddau tuag at yr achos.