Rydych yma : Hafan > Newyddion > Am fynd i gerdded yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru? Peidiwch anghofio lein y Cambrian!

Am fynd i gerdded yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru? Peidiwch anghofio lein y Cambrian!

11 Ebrill 2016 | Categori: Newyddion

cambrian trailways english mapMae'r Crwydrwyr y Cambrian yn gyfres o daflenni sy'n dangos teithiau cerdded 'llinellol' hunan dywysedig rhwng gorsafoedd rheilffyrdd ar rhwydwaith y Cambrian. Mae'r rhain wedi cael eu datblygu i hyrwyddo rhai o'r teithiau cerdded heb gar sy' ar gael yn ardal Canolbarth Cymru. Cyfle i chi brofi dros eich hun y golygfeydd ysblennydd, y bysywd gwyllt amrywiol, a'r hwyl sydd gan y rhan unigryw yma o'r byd i'w gynnig.

Mae yna 12 yn y gyfres. Gallwch lawrlwytho'r gyfres fel ffeiliau PDF yma:

  1. Borth-Aberystwyth
  2. Llwyngwril-Abermaw
  3. Caersws-Y Drenewydd
  4. Criccieth-Porthmadog
  5. Dyffryn-Talybont
  6. Llanaber-Abermaw
  7. Aberdyfi-Tywyn
  8. Y Drenewydd-Y Trallwng
  9. Tonfanau-Tywyn
  10. Llanbedr-Harlech
  11. Blaenplwyf - Aberystwyth
  12. Dolgellau - Abermaw

Cambrian Railways Seaside Strolls

Crwydro ger y lli

Cerddwch ymlaen ac anghofiwch pwysau'r byd ar rai o draethau gorau'r wlad. Rhowch wyliau i'r car, a dewch ar gledrau'r Cambrian!

Pam na rowch chi gynnig ar rai o'r teithiau cerdded syml yma rhwng rhai o orsafoedd lein y Cambrian. Dyma 3 taith gerdded syml i chi [pdf 1.1MB] - cliciwch ar y llun ar yr ochr dde, neu cliciwch yma i lawrlwytho'r clawr a'r manylion arall [pdf 1.8MB].

  1. Aberdyfi - Tywyn
  2. Llanaber - Talybont
  3. Abererch - Pwllheli