Rydych yma : Hafan > Lein y Cambrian > Map

Map

Mae leiniau'r Cambrain wedi'u rhannu'n 2 lein.

Mae'r llinell wledig yn cysylltu Aberystwyth gyda'r Amwythig, ac mae gan y trenau gysylltiad uniongyrchol i Birmingham New Street a Maes Awyr Birmingham a'r NEC. Mae 'na gysylltiadau arbennig i weddill y DU o'r Amwythig ac o Birmingham New Street.

Mae'r llinell arfordirol, neu lein y glannau'n teithio ar hyd arfordir gogleddol Bae Ceredigion, o Fachynlleth i Bwllheli.

Yn gyffredinol, os ydych chi'n teithio o gyfeiriad yr Amwythig i'r canolbarth ar rheilffyrdd y Cambrian, bydd angen i chi deithio yn un o'r 2 goets ar ben blaen y tren i deithio am Aberystwyth, ac i un o'r 23 goets tuag at gefn y tren i deithio am Bwllheli. Mae'r tren yn rhannu ym Machynlleth. Cofiwch ofyn i'r swyddog ar y tren rhag ofn bod unrhyw newid i hyn.

Cofiwch edrych ar ein gwylwyr ffenest i'ch tywys ar hyd y teithiau yma.