
Clichywch yma ar teithiau cerdded hunan-dywysedig rhwng gorsafoedd ar rwydwaith y Cambrian
Mae Prif Lein y Cambrian yn teithio drwy rai o'r golygfeydd mwyaf amrywiol a hardd yn y wlad ac mae Llinell Arfordir y Cambrian yn rhoi un o'r teithiau rheilffordd arfordir mwyaf bendigedig unrhyw le ym Mhrydain.
Mae Bae Ceredigion yn cynnig rhai o gyrchfannau twristiaeth arfordirol mwyaf gwyrdd Prydain ac mae Rheilffyrdd y Cambrian yn ffordd ddelfrydol o ymweld a mwynhau'r 'Bae'. Beth fedrai fod yn well na marchogaeth, seiclo neu gerdded ym Mynyddoedd y Cambrian, Parc Cenedlaethol Eryri neu Ardal Harddwch Neilltuol Pen Llŷn. Mae'n rhwydd eu cyrraedd i gyd ar y trên.
Mae Canolbarth Cymru yn wlad y 'barcut coch' lle mae'r adar ysglyfaethus godidog hyn yn hedfan yn uchel yn awyr lân y mynydd. Mae hefyd yn gartref i ddolffiniaid a morloi Bae Aberteifi sy'n chwarae yn y tonnau glas - medrwch weithiau eu gweld o'ch sedd ar y trên.
Mae trefi hanesyddol, cyrchfannau glan môr, cestyll gwych, rheilffyrdd bach, amgueddfeydd a chyfleusterau hamdden arall - llu o leoedd i ymweld â hwy a phethau i'r holl deulu eu gwneud, sydd ar gael drwy'r flwyddyn.
P'un ai ydych yn cynllunio penwythnos gweithgaredd, wythnos hamddenol ar yr arfordir neu ddiwrnod llawn hwyl i'r teulu - mae'r cyfan ar gael yn y rhan fendigedig yma o Gymru.
Mae amrediad eang o docynnau disgownt a chardiau ar gael:
Os ydych yn teithio ar gyfer gwaith neu am hwyl - 'does dim ffordd well o deithio nag ar y trên, felly ... ewch ymlaen, ewch ar y trac cywir... Rheilffyrdd y Cambrian.

"Rwy'n croesawu'n wresog mentrau fel hyn sydd nid yn unig yn hyrwyddo gwasanaethau cludiant cyhoeddus lleol ond hefyd yr atyniad Cymru Wledig ar y cyfan. Mae ‘Gwyliwr' newydd lein Arfordir y Cambrian yn cyfrannu at wella dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o olygfeydd arfordirol a mynyddig gwych ein gwlad.
"Mae'r fenter newydd yn esiampl o sut mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn gwireddu prosiectau sydd yn cefnogi'r economi letach mewn ardal ble mae twristiaeth yn ddiwydiant mor bwysig."

Ieuan Wyn Jones AC,
, Dirprwy Brif Weinidog Cymru a'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cysylltwch â ni:
Swyddog Datblygu Rheilffyrdd
Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
d/o Trenau Arriva Cymru
Stryd Doll
Machynlleth
Powys SY20 8BL
F. 01654 700120
Ebostiwch â ni
© 2008 Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. | Dylunio gwefan gan Cyberium