
Rheilffyrdd y Cambrian
Mae Rheilffyrdd y Cambrian yn ymestyn dros 120 milltir o harddwch naturiol dilychwin ac yn cynnig rhai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol ym Mhrydain.
​
O Amwythig yn Swydd Amwythig, mae Prif Lein y Cambrian yn mynd â chi dros y ffin i Gymru, trwy dir mynyddig garw, trefi marchnad pert, safleoedd Treftadaeth y Byd a chestyll, traws gwlad tuag at brydferthwch arfordir gorllewinol Cymru. Yma mae’n ymuno â Lein Arfordir y Cambrian gyda golygfeydd godidog, teithiau cerdded arfordirol a lleoedd i ymweld â nhw ar hyd llwybr arfordir Cymru.


Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
Mae’r wefan hon yn cynrychioli Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. Cawn ein lletya gan Gyngor Sir Ceredigion a daw ein prif gyllid gan Drafnidiaeth Cymru gyda chyllid ychwanegol gan Avanti West Coast a Chyngor Sir Swydd Amwythig rydym yn ddiolchgar iawn amdano.
​
Ein nod fel Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol ar gyfer Rheilffyrdd y Cambrian yw cysylltu cymunedau lleol â’u rheilffordd, gan sicrhau budd cymdeithasol, cynyddu’r defnydd o’r rheilffyrdd, hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a theithio cynaliadwy.
Beth yw Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol
Ein gweithgareddau
Am Bartneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian
Adroddiad Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian
Bwcio
Mae Lein y Cambrian yn cael ei wasanaethu gan Drafnidiaeth Cymru.
​
Cynlluniwch eich taith a bwciwch eich tocynnau yma. Neu lawrlwythwch Ap Trafnidiaeth Cymru o App Store ar gyfer Apple neu Google Play ar gyfer Android.
​
I gael gwybodaeth amser real am wasanaethau trên Lein y Cambrian ewch i wefan Gwirio Taith Trafnidiaeth Cymru.
Cliciwch yma i weld y mathau o docynnau, arbedion a chynigion wrth deithio ar y trên.