top of page

Partneriaeth Rheilffyrdd Y Cambrian

What is Community Rail

Beth yw Rheilffyrdd Cymunedol?

Mae rheilffyrdd cymunedol yn fudiad ar lawr gwlad sydd ar gynnydd ac wedi’i ffurfio o bartneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau ar draws Prydain.

 

Gan weithio ochr yn ochr â phartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, mae partneriaethau rheilffyrdd cymunedol yn ymgysylltu â chymunedau ac yn helpu pobl i gael y mwyaf o’u rheilffyrdd, gan hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, llesiant cymunedol, datblygu economaidd a theithio cynaliadwy.

 

Maent hefyd yn gweithio ochr yn ochr â gweithredwyr trenau, gan gyfrannu at welliannau a rhoi bywyd newydd i orsafoedd. (Ffynhonnell y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol)

Community Rail workers

Y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol

Mae’r Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol yn darparu cymorth a chyngor i’r mudiad rheilffyrdd cymunedol trwy ei aelodaeth. Mae’n rhannu arfer da ac yn cysylltu partneriaethau a grwpiau rheilffyrdd cymunedol â’i gilydd, gan weithio gyda’r llywodraeth, y diwydiant rheilffyrdd, a’r sector gwirfoddol a chymunedol ehangach i hyrwyddo rheilffyrdd cymunedol. (Ffynhonnell y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol)

Community Rail Network Logo
Community Rail Accredited Partnership

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn bartneriaeth rheilffyrdd cymunedol achrededig sy’n gydnabyddiaeth ffurfiol gan yr Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cymru bod partneriaeth rheilffyrdd cymunedol yn gweithredu i safon uchel a chydag amcanion a gweithgareddau a gefnogir gan y Llywodraeth. Gweinyddir y system achredu gan y Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol ac mae’n berthnasol i’r partneriaethau rheilffyrdd cymunedol hynny sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr.

Am Bartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian

About the Cambrian Railway

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian wedi bodoli ers dros 20 mlynedd. Mae’r bartneriaeth yn cwmpasu ardal eang, yn ymestyn dros 120 milltir a 34 o orsafoedd o Amwythig i Aberystwyth ac i fyny Arfordir Cymru i Bwllheli.

​

Cyngor Sir Ceredigion yw’r awdurdod lletya a rheoli ariannol presennol ar gyfer y bartneriaeth sy’n cael ei hariannu gan Drafnidiaeth Cymru, Avanti West Coast a Chyngor Sir Swydd Amwythig.

Activities

Ein Gweithgareddau

Ein gweledigaeth ar gyfer rheilffyrdd cymunedol yw bod cymunedau lleol wedi’u cysylltu’n llwyr â’u rheilffordd. Darparwn lais ar gyfer y gymuned, yn helpu i hyrwyddo teithio cynaliadwy, iach a hygyrch. Down â chymunedau at ei gilydd, gan gefnogi amrywiaeth a chynhwysiant, a chefnogwn ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd, gan gysylltu cymunedau â lleoedd a chyfleoedd. Gweithiwn mewn partneriaeth â llawer o sefydliadau eraill gan gysylltu eu harbenigedd i gyflawni hyn.

​

Mae ein cynllun gweithgareddau yn adlewyrchu ein gweledigaeth ac yn hyrwyddo’r saith nod yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a phedair colofn strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol yr Adran Drafnidiaeth.

​

Mae enghreifftiau o’n gweithgareddau craidd ar gyfer y flwyddyn 2022/23 yn cynnwys:

Teithiau Cerdded er Budd Lles – teithiau hamdden o orsafoedd ar draws y llwybr o Amwythig i Aberystwyth a llwybr yr arfordir i Bwllheli.

Recreational Walkers

Cronfa Datblygu Cymunedol Rheilffyrdd y Cambrian – Mae grantiau o hyd at £1,500 ar gael ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n lleddfu ynysu cymdeithasol a/neu’n gwella iechyd a llesiant. Cyswllt i’r erthygl newyddion. (read more).

Borth Community Project

Cynaliadwyedd mewn Gorsafoedd – Cefnogi Trafnidiaeth Cymru gyda’r cynllun mabwysiadu gorsafoedd ac ymgorffori cynaliadwyedd mewn gorsafoedd, er enghraifft, plannu bwyd bwytadwy/sy’n gyfeillgar i bryfed a gwaith celf gorsaf/cymuned sy’n cynnwys deunyddiau wedi’u hailgylchu.

Sustainability at the Stations

Rhowch Gynnig ar y Trên – Byddwn yn gweithio gyda sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol i annog grwpiau anodd eu cyrraedd i deithio ar y trên.

Photo of a young child getting a train ticket

Mae gweithgareddau a phrosiectau eraill yn cynnwys diwrnodau ‘Awdur’ dwyieithog mewn ysgolion, creu Hybiau Cymunedol Gorsafoedd newydd a hyrwyddo Treftadaeth Rheilffyrdd y Cambrian.

​

Os hoffech gymryd rhan neu os hoffech wybod mwy am ein gweithgareddau rheilffyrdd cymunedol, cysylltwch â

 hello@thecambrianline.co.uk

​

Adroddiad Lein y Cambrian ar gyfer 2021/22

Bob blwyddyn mae’r bartneriaeth yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol o’r gweithgareddau a gynhaliwyd trwy gydol y flwyddyn. Cliciwch Yma i ddarllen Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian 2021/22.

Report
Cambrian Railway Partnership report
bottom of page