Maer Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian (PRC) yn dymuno penodi Cadeirydd newydd i symud y sefydliad cymunedol pwysig hwn yn ei flaen. Rydym yn chwilio am Gadeirydd newydd i ddarparu ysbrydoliaeth, arweinyddiaeth, arweiniad strategol, a sicrhau llywodraethu effeithiol or bartneriaeth.
Nifer y cyfarfodydd y flwyddyn/ymrwymiad amser:
• 3 x Cyfarfod Partneriaeth y flwyddyn, 1 x Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
• Cynrychiolaeth ad hoc o PRC mewn digwyddiadau a phresenoldeb mewn digwyddiadau/cyfarfodydd eraill yn unol â chais y Bartneriaeth neur Swyddog Rheilffyrdd.
• Disgwylir cyswllt personol ac electronig rheolaidd gydar Swyddog Rheilffyrdd.
• Mae cyfarfodydd PRC a CCB fel arfer yn gyfarfodydd boreol ar-lein.
Maer PRC yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau arweinyddiaeth uwch a datblygu strategol profedig. Gyda sgiliau cyfathrebu da, profiad llywodraethu, a rhywun sy’n medru datblygu perthynasau’n dda. Yn ddelfrydol, maent yn chwilio am rhywun sydd âr gallu i herior sefydliad i fod yn fwy beiddgar, yn fwy ac yn well.
Am sgwrs anffurfiol am y rôl neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: volunteering@pavo.org.uk neu ffoniwch: 01597 822191

Comments