top of page

Rheilffordd 200 yn cael ei lansio yn Aberystwyth

Writer's picture: Partneriaeth Rheilffyrdd y CambrianPartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian

Updated: Jan 26




Datganiad i'r Wasg: Trafnidiaeth Cymru


Mae’r flwyddyn hon yn nodi 200 mlwyddiant y rheilffordd fodern yn y DU ac mae Cymru’n paratoi i ddathlu’r garreg filltir hanesyddol hon.


Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal drwy’r flwyddyn ledled Cymru a chynhelir y digwyddiad cychwynnol yn Aberystwyth heddiw.


Dywedodd Dr Louise Moon, Arweinydd Rhaglen Rheilffordd 200 Trafnidiaeth Cymru, ei bod hi’n gyffrous i arddangos hanes Cymru yn ogystal â hyrwyddo’r datblygiadau newydd sydd bellach yn digwydd.


Dywedodd hi:

“Rydyn ni’n hynod o gyffrous i rannu cymaint o hanes Cymru gyda’n cymunedau, gan adrodd yr holl straeon am arloesedd, cryfder, a phenderfyniad.
“Mae Rheilffordd 200 yn dathlu cymaint o’n hanes cymdeithasol a diwylliannol ynghyd â’r ffordd wnaeth y rheilffyrdd drawsffurfio’n gwlad a’i gwneud hi’r hyn y mae heddiw.
“Gyda dyfodiad y rheilffordd, gwnaeth trefi fel Aberystwyth dyfu’n eithriadol. Braf felly, yw lansio’r flwyddyn o ddigwyddiadau yma.
“Nid yn unig yr ydym eisiau ysbrydoli cenhedlaeth newydd gyda’n hanes yr ydym mor falch ohono, wrth inni ddatblygu prif waith trawsffurfio nesaf ein rhwydwaith, a fydd yn cysylltu cenhedloedd y dyfodol o fewn Cymru, rydym hefyd am ei hysbrydoli gyda’r wyddoniaeth, technoleg ac arloesedd sydd bellach yn bodoli.”

Er i’r garreg filltir nodi 200 blynedd ers y daith gyntaf i gwsmeriaid ar Reilffordd Stockton & Darlington ar 25 Medi,1825, gall Cymru hawlio rhan enfawr yn hanes y daith nodedig honna.


Ym 1804, dylunwyd locomotif Penydarren gan y peiriannydd Cernywaidd, Richard Trevithick, a wnaeth dynnu 10 tunnell o lo am 10 milltir rhwng Gwaith Haearn Penydarren ym Merthyr Tydfil ac Abercynon.


Tair blynedd wedyn, ym 1807, gwelwyd teithwyr cyntaf y byd yn prynu tocynnau ar gyfer Rheilffordd Abertawe a’r Mwmbwls. Byddai ceffylau yn lle locomotifau’n tynnu cerbydau ar hyd y traciau trên a fyddai’n brofiad hynod o boblogaidd i lawer.


Mae Trafnidiaeth Cymru yn dod yn rhan o’r hanes hwnnw drwy drydaneiddio llinellau craidd y cymoedd yn ne-ddwyrain Cymru, adeiladu gorsafoedd a depos newydd, a buddsoddi £800 miliwn mewn trenau newydd.


Dyma’r pedair prif thema a fydd yn cael eu harchwilio fel rhan o’r cynlluniau ehangach i adrodd hanes Rheilffordd 200 ledled y DU.


· Sgiliau ac Addysg


· Arloesedd, Technoleg a’r Amgylchedd


· Treftadaeth, Diwylliant a Thwristiaeth


· Dathlu Pobl y Rheilffordd


 
 

Comments


Commenting has been turned off.
Transport for wales logo
cambrian-stacked-landscape_edited.png
PAVOlogo.png
CRP Accreditation Logo (no dates).jpg
Avanti Logo

HAWLFRAINT 2020 PARTNERIAETH RHEILFFORDD CAMBRIAN - CEDWIR POB HAWL.. |  PREIFATRWYDD

  • Twitter
  • Facebook
  • Instagram
bottom of page