Swyddog Datblygu - Rheilffyrdd Cymunedol (Partneriaeth Rheilffyrdd Cambrian) 35 awr yr wythnos £30,825 yr wythnos
Wedi'i leoli yn Swyddfeydd PAVO yn Y Drenewydd
Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o waith datblygu ac angerdd am deithio ar y trên i ddod i ymuno â'n tîm. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda'r bartneriaeth rheilffyrdd cymunedol i sefydlu a gweithredu cynllun gweithgaredd a fydd o fudd i'r gymuned a'r rheilffordd. Os oes gennych yr hyn sydd ei hangen i ddod â gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol, busnesau lleol a mentrau twristiaeth ynghyd i ddatblygu a gweithredu prosiectau ar hyd y rhwydwaith trafnidiaeth golygfaol a phwysig hwn, rydym am glywed gennych.
Peidiwch â chael eich rhwystro rhag gwneud cais os nad oes gennych yr holl sgiliau a phrofiad a nodir yn y disgrifiad swydd. Rydym yn cynnig cyfnod sefydlu trylwyr ac amgylchedd dysgu cadarnhaol. Mae angen brwdfrydedd ac agwedd gall-wneud!
Mae PAVO yn cynnig gweithio hyblyg ac hybrid, byddai canolfan unrhyw le ar hyd Rheilffordd y Cambrian yn cael ei hystyried ar gyfer yr ymgeisydd cywir.
Dyddiad cau: Hanner dydd, dydd Mawrth 10fed o Rhagfyr 2024
Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 17eg o Rhagfyr 2024
Anfonwch ffurflen gais wedi'i gwblhau, ynghyd â'r Ffurflen Monitro Amrywiaeth i
recruitmen@pavo.org.uk erbyn y dyddiad cau.
Comentarios