top of page

Swyddog Datblygu Newydd wedi'i benodi ar gyfer Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian

Writer: Partneriaeth Rheilffyrdd y CambrianPartneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian

Delwedd (o'r chwith i'r dde): Neil Scott - Cadeirydd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, Deborah Justice - Swyddog Datblygu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, Claire Sterry - Uwch Swyddog y Trydydd Sector PAVO.
Delwedd (o'r chwith i'r dde): Neil Scott - Cadeirydd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, Deborah Justice - Swyddog Datblygu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, Claire Sterry - Uwch Swyddog y Trydydd Sector PAVO.

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn falch o gyhoeddi penodiad Deborah Justice yn Swyddog Datblygu newydd. Bydd Deborah yn chwarae rhan allweddol wrth gysylltu cymunedau lleol â'u rheilffordd trwy amrywiaeth o fentrau dan arweiniad y gymuned.

 

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian wedi bodoli ers dros 20 mlynedd, ac yn cynnwys ardal eang sy’n rhychwantu 120 milltir a 34 o orsafoedd rheilffordd o Amwythig i Aberystwyth ac i fyny Arfordir Cymru i Bwllheli. Mae Deborah yn dod â chyfoeth o brofiad mewn ymgysylltu a datblygu cymunedol, gan ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer gyrru prosiectau ymlaen sy'n hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, teithio cynaliadwy a thwristiaeth ranbarthol.

 

Daw penodiad Deborah ar adeg gyffrous i’r bartneriaeth, gan ei bod hefyd yn croesawu mudiad newydd fydd yn ei lletya sef Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol POWYS (PAVO), sydd hefyd yn cynnal Partneriaeth Rheilffordd Gymunedol Calon Cymru. Mae PAVO wedi bod yn cefnogi'r trydydd sector ym Mhowys ers dros 25 mlynedd gyda'u gweithgaredd yn canolbwyntio ar wirfoddoli, llywodraethu da, cyllid cynaliadwy ac ymgysylltu a dylanwadu.

 

Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd Deborah Justice: “Rwy’n gyffrous iawn fy mod wedi cael fy mhenodi gan PAVO yn Swyddog Datblygu newydd ar gyfer Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda grwpiau cymunedol a mudiadau ar hyd llinell y Cambrian i ddatblygu prosiectau a arweinir gan y gymuned. ”

 

Ar ran Cadeirydd y Bartneriaeth, dywedodd Neil Scott: “Trafnidiaeth Cymru sy’n ariannu Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian i gyflawni ei gweledigaeth ehangach ar gyfer rheilffyrdd cymunedol a bydd yn cefnogi’r Bartneriaeth, ochr yn ochr â Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymunedol, i sicrhau bod lleisiau lleol yn cael eu clywed, a bod dyheadau cymunedol yn cael eu diwallu trwy brosiectau cydweithredol gyda rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth.”

 

Ychwanegodd Clair Swales, Prif Swyddog Gweithredol PAVO: “Fel y mudiad newydd sy’n lletya Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian, mae PAVO yn falch o groesawu Deborah Justice fel y Swyddog Datblygu newydd.

 

“Rydym yn falch o chwarae rhan allweddol wrth yrru mentrau a arweinir gan y gymuned sy'n hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a theithio cynaliadwy ar hyd Llinell y Cambrian.

 

“Bydd arbenigedd Deborah mewn ymgysylltu â’r gymuned yn gaffaeliad wrth i ni gryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau lleol a’r rheilffordd, ac rydym yn gyffrous i weld yr effaith gadarnhaol y bydd ei gwaith yn ei gael ar gymunedau a defnyddwyr llinell y Cambrian.”

 

Os hoffech wybod mwy am sut i ymwneud â’r Bartneriaeth a'i gweithgareddau, cysylltwch â Deborah Justice deb.justice@pavo.org.uk

 
 

Comments


Transport for wales logo
cambrian-stacked-landscape_edited.png
PAVOlogo.png
CRP Accreditation Logo (no dates).jpg
Avanti Logo

HAWLFRAINT 2020 PARTNERIAETH RHEILFFORDD CAMBRIAN - CEDWIR POB HAWL.. |  PREIFATRWYDD

  • Facebook
  • Instagram
  • Linkedin
bottom of page